253 avsnitt • Längd: 5 min • Månadsvis
Cyfres o straeon i blant bychain. A series of stories for young children.
The podcast Stori Tic Toc is created by BBC Radio Cymru. The podcast and the artwork on this page are embedded on this page using the public podcast feed (RSS).
Dyma stori am bedair draig fach â sgiliau arbennig sy'n dysgu sut i weithio gyda'i gilydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sion Tomos Owen.
Dewch i wrando ar stori am anrheg Nadolig arbennig yng nghanol yr haf! Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.
Dewch i wrando ar stori am Greta’r gwcw sy’n chwilio am ei llais canu. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Williams
Dewch i ddathlu Eid gydag Alina a Nain Lleuad. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.
Mae Berwyn y Tarw wedi arfer cael ei ffordd ei hun, ond mae’r gwartheg wedi cael hen ddigon! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Anna Lisa Jenaer
Dyma stori am Blodi y blodyn haul sy’n codi gwên ar bawb. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Dyma stori am Elsi a Magi ei milgi ffyddlon sy’n cael bob math o freuddwydion. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Hanna Jarman.
Mae Lwsi yn mynd ar daith anhygoel gyda ei ffrind newydd Cai y cwningen. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen
Dewch i wrando ar stori am gamgymeriad yn arwain at barti hufen iâ. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Dewch i wrando ar stori am seren wib a syrthiodd i’r ddaear yng nghanol y nos. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dewch i wrando ar stori am aderyn arbennig ac am edrych, gwrando a bod yn garedig. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Hammad Rind.
Dewch i wrando ar stori am drip llawn hwyl i’r traeth, er falle nid y trip roedd pawb yn ei ddisgwyl. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Oliver.
Ci bach cyfeillgar yw Tegwen ond pam tybed does ganddi ddim ffrindiau? Richard Elfyn sy'n darllen stori gan Brennig Davies.
Un diwrnod braf yn y parc, mae’r hen ddyn yn dod o hyd i dedi bach yn eistedd ar ei fainc, ond tedi pwy tybed? Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Chris Harris.
Milfeddyg yw Nain Joseff, a mae e wrth ei fodd yn mynd i’w gweld am bod y tŷ yn llawn anifeiliaid swnllyd. Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Dyw Mali ddim yn meddwl bod ganddi dalent, dim nes bod y syrcas yn dod i’r dre. Richard Elfyn sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Dewch i wrando ar stori am lyffant sydd ddim yn gallu neidio! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Nia Parry.
Dewch i wrando ar stori am gi bach arbennig iawn o’r enw Siwper Selsgi! Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Nia Parry.
Dewch i wrando ar stori am antur Seren a’i theganau i’r lleuad. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts. A story about Seren's adventure to the moon.
Dewch i wrando ar stori am fachgen o’r enw Meic a’i feic newydd sbon. Bethan Ellis Owen sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Pan mae Siani’r crocodeil yn brifo ei choes, mae’r anifeiliad eraill i gyd ofn ei helpu, pawb heblaw Ping. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Llinos Thomas Davies.
Mae Seimon yn hiraethu am ei nain, nes ei fod yn darganfod cragen arbennig ar y traeth sy’n newid popeth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Môr leidr sy’n caru siocled yw Mori, ac un diwrnod mae’n darganfod trysor arbennig ar y traeth yn Aberystwyth. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Anni Llŷn.
Mae pawb ond Ifan yn gallu dweud yr amser, ond mae Tic Toc, ceidwad amser, wedi dod i’w helpu. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Miriam Sautin.
Wrth fynd am dro un bore yn yr eira mae Nel yn gweld rhywbeth hollol anhygoel. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Mae Nel yn breuddwydio am gael gweld enfys, ac o’r diwedd mae ei breuddwyd yn dod yn wir. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Yn ystod amser chwarae yn yr ysgol mae’r plant yn dod o hyd i wylan fach ar yr iard. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mirain Fflur.
Dydy Harri ddim yn hoffi mynd i gael torri ei wallt, ond y tro hwn mae o’n cael mynd a Cleif efo fo. Rolant Prys sy'n adrodd stori gan Mari Lovgreen.
Mae Siwsi ar fin dathlu ei phenblwydd yn bum mlwydd oed ac yn gobeithio cael anrheg anghyffredin iawn. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Rhiannon Lloyd Williams
Mae dant Anest yn dechrau dod yn rhydd ond yn gwrthod dod allan, mae hi angen help! Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Leo Drayton.
Mae pawb yn barod ac yn edrych ymlaen at y sioe dalent fawr, pawb heblaw Lewsyn, ond pam? Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Arddun Arwel.
Ebol bach busneslyd sy’n ysu i gwrdd â’r ceffyl mawr yn y cae drws nesaf yw Idris. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Mel Owen.
Mae Eryl y llew yn hapus iawn helpu edrych ar ôl Meilyr y mwnci, ond mae Meilyr yn dipyn o lond llaw. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anona Thomas.
Mae Eryl y llew am goginio gwledd blasus i’w ffrindiau, ond dydy e erioed wedi coginio o’r blaen! Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Anona Thomas.
Mae Cadi wrth ei bodd yn mynd am dro gyda’i pherchennog Siencyn, ond heddiw mae ei injan yn sâl. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Twm Ebbsworth.
Noson fawr y gyngerdd ac mae pawb yn barod am sioe wych, wel pawb heblaw Ffion y Brif Ffidil. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Chris Harris.
Dewch i wrando ar stori am ddafad ddireidus yn mynd am drip ar fws i’r traeth. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Dewch i wrando ar stori am ddau ffrind, NiNi a Cwlffyn, yn golchi car eu Nain. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dewch i wrando ar stori am ddau ffrind, NiNi a Cwlffyn, yn chwarae cuddio gyda’u Nain. Sion Pritchard sy'n adrodd stori gan Sioned Wyn Roberts.
Dewch i wrando ar stori am NiNi a Cwlffyn. Mae NiNi yn fach a Cwlffyn yn gawr, ac mae'r ddau yn ffrindiau mawr. Sion Pritchard sy'n darllen stori gan Sioned Wyn Roberts.
Pan mae Ola’n cymryd un llwy de o fêl cyn mynd i’r gwely, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Sioned Erin Hughes.
Mae Cleo’r ci a’i pherchennog Cadi yn ffrindiau mawr iawn, ac mae gan Cadi syrpreis arbennig i Cleo. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Melanie Owen.
Mae pawb yn yr ysgol yn hoffi gwallt Llion, ac mae gan Mam Llion stori ddifyr amdano.
Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Melanie Owen
Dewch i wrando ar stori am Elsi a’r anrheg gorau erioed, pren mesur. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.
Dewch i wrando ar stori am uncorn blewog iawn. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Anni Llyn.
Dewch i wrando ar stori Olwen yr Orca oedd yn meddwl nad oedd hi angen ffrindiau. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Anna Lisa Jenaer
Dewch i wrando ar stori am Gwern sy’n helpu ei frawd bach ar ddiwrnod ei barti. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Aled Richards.
Er bod Cochyn yn gameleon ychydig yn wahanol i bob cameleon arall, mae ganddo ddoniau arbennig! Rebecca Harries sy'n darllen stori gan Sioned Wyn Roberts.
Cameleon bach anghyffredin iawn yw Cochyn, ond mae’n breuddwydio am gael bod yr un fath â phob cameleon arall. Rebecca Harries sy'n darllen stori gan Sioned Wyn Roberts.
Mae Daniel a Nansi yn efeilliad ac yn gorfod trio rhannu pob dim, hyd yn oed y tŷ adar. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Rhiannon Wyn.
Mae Martha yn cael gwers arbennig iawn yn yr ysgol heddiw, mae hi’n dysgu sut i deimlo curiad ei chalon. A story for young listeners.
Mae Delyth y Draenog yn ysu am wyliau tawel, ond yn anffodus mae Wini’r Wiwer am ddod gyda hi. Simon Watts sy'n adrodd stori gan Miriam Sautin
Dewch i wrando ar stori am Jaco yn y caffi, lle cafodd fwyd doedd o ddim yn ei hoffi.
Ar ei ben-blwydd mae Dewi eisiau parti môr ladron. Tybed a ddaw e o hyd i drysor go iawn yn ei barti? Dewi wants a pirate-themed birthday party. Will he find treasure at the party?
Mae Nansi druan yn sâl ac yn methu cynnal y sioe ffasiwn, ond mae Persi Pry Cop yn barod i’w helpu. Simon Watts sy'n adrodd stori gan Martha Ifan
Mae Nansi wrth law i helpu Persi Pry Copyn ffeindio gwisg arbennig i’r ddawns pryfaid cop. Simon Watts sy'n adrodd stori gan Martha Ifan.
Dewch i wrando ar stori am Lleu y Llew â’r broblem wynebodd cyn mynd i gysgu. Rhian Blythe sydd yn adrodd stori gan Chris Harris
Dewch i wrando ar stori Gwen, oedd wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed. Rhian Blythe sydd yn adrodd stori gan Carwyn Eckley.
Dewch i wrando ar stori Mari a’i phrofiad hudol wrth fynd ar ei beic. Rhian Blythe sydd yn adrodd stori gan Miriam Sautin.
Dewch i wrando ar stori am Lora a’i Mam yn mynd am drip i Lundain. Rhian Blythe sy'n adrodd stori gan Casia Wiliam.
Dewch i wrando ar stori am Dewi, y dewin dawnsio. Rebecca Harries sy'n adrodd stroi gan Sioned Evans
Dewch i wrando ar stori am fachgen bach o’r enw Iolo, a’i goron hud. Rebecca Harries sydd yn adrodd y stori gan Glesni Haf.
Dewch i wrando ar stori am Begw oedd eisiau byw y tu allan gyda’r adar a’r mwydod. Rebecca Harries sy'n adrodd stori gan Mali Tudno.
Dewch i wrando ar stori am ferch fach o’r enw Erin a’i ffrind newydd, Ceridwen y ci. Rebecca Harries sydd yn adrodd stori gan Glesni Haf.
Mae Nansi wrth ei bodd yn gwibio drwy’r awyr ar feic hudol Tad-cu, ond i ble mae Nansi yn mynd heddiw tybed? Stori gan Martha Ifan ac yn cael ei adrodd gan Rhian Blythe
Mae Bobi Wyn yn fachgen blêr iawn iawn, hyd nes un dydd mae’n gorfod tacluso ei stafell wely er mwyn dod o hyd i’w hoff degan. Stori gan Lleucu Lynch yn cael ei adrodd gan Rhian Blythe.
Mae Aled wedi cyffroi achos mae ei dad wedi gosod pabell yn yr ardd, er mwyn iddyn nhw fynd yno i gysgu drwy’r nos, am gyffrous! Stori gan Nia Morais ac yn cael ei adrodd gan Rhian Blythe.
Dewch i wrando ar stori am amgueddfa arbennig iawn, y Mamgu-eddfa! A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am Elsi, Magli a’r crochan hud. A story for young listeners about Elsi, Magli and a magic cauldron.
Dewch i wrando ar stori am forlo bach unig yn aros gyda’i ffrindiau i’w fam ddychwelyd. A story for young listeners about a baby seal and his friends.
Dewch i wrando ar stori am Eryl a’i frawd bach Efan. The story about Eryl and his little brother, Efan.
Mae Aled wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael mynd i lan y môr gyda’i Dad. Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Nia Morais.
Dymuniad Eryl y Llew yw tyfu mwng anferth, ond sut yn y byd mae gwneud hynny? Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Anona Thomas.
Cyfle i wylwyr Cyw wrando ar stori hyfryd, dychmygus a direidus gan amryw o awduron mewn rhaglen newydd sbon. A series of stories for the younger audience.
Mae Rhian yn ysu i wybod pa fath o goeden ydy hi, ac yn gofyn i’w ffrindiau yn y parc am help. Rebecca Harries sydd yn darllen stori gan Sion Tomos Owen.
Dewch i wrando ar stori am ferch fach o’r enw Megan a sut gollodd ei hoff degan. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am Martha’r Wrach a’i holl ffrindiau newydd, mawr a bach. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am fachgen bach o’r enw Bobi Wyn a’r freuddwyd flasus a gafodd un noson. A story for young listeners.
Hoff beth Iwan yr Octopws yn y byd i gyd ydy ei sanau lliwgar, ond pam mae pawb yn chwerthin am ei ben?
Mae Sioned yn darganfod rhywbeth dieithr yn y sied ar waelod yr ardd, ond tybed beth yw e?
Mae Dafydd wrth ei fodd gyda’i gymdogion i gyd, ac am drefnu syrpreis bendigedig iddyn nhw.
Mae Nain Ninja yn byw yng nghartref henoed Heulfre ac yn cadw llygad barcud ar bopeth sy’n digwydd yno.
Stori ar gyfer ein gwrandawyr ifanc. Dewch i wrando ar stori am nain anhygoel Sam a’r lleidr a ddaeth i ddwyn ei siocled hi. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am Oli a’r trysor arbennig y daeth o hyd iddo ar gyfer diwrnod Dangos a Dweud yn yr ysgol.
Dewch i wrando ar stori am Math a Greta a’r crochan fawr hud yng ngwaelod yr ardd sy’n mynd â nhw am antur ar hyd a lled y byd.
Dewch i wrando ar stori am Llywelyn y Llew oedd ddim yn gallu rhuo.
Mae Lora wrth ei bodd yn canu drwy’r dydd, ond mae’r canu yn tewi pan mae hi’n mynd i’r ysgol feithrin am y tro cynta. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am ferch o’r enw Llinos sy’n hoffi darllen yn fwy na chwarae. A story for young listeners.
Mae Bryn yn ysu i fod yn dal, ond pan mae e’n cael ei ddymuniad dydy e ddim yn siwr ydy bod yn dal yn beth da wedi’r cyfan.
Dewch i wrando ar stori am forlo anhapus sydd wedi brifo’i hun ar greigiau peryglus. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am gi bach o’r enw Magi Mai sy’n gallu gweld dau o bob dim!
Stori ar gyfer ein gwrandawyr ifanc. Dewch i wrando ar stori am fachgen bach o’r enw Nicw a’i ffrind Begla.
Dewch i wrando ar stori am Loti a’i pharti a’i ffrind bach newydd oedd hefyd eisiau dathlu. A story for young listeners.
Stori ar gyfer ein gwrandawyr ifanc. Dewch i wrando ar stori am Macsen y ci sy’n hoffi chwarae a gwneud pob math o ddrygau.
Stori ar gyfer ein gwrandawyr ifanc. Mae chwarae’n troi’n chwerw i Mari a Rhiannon pan maen nhw’n ‘menthyg’ goriadau car Mam. A story for young listeners.
Mae Elin yn breuddwydio am gael mynd am daith i’r gofod, tybed a ddaw ei breuddwyd yn wir? Elin dreams of a trip to space, will her dream come true?
Mae gan Madlen llawer iawn o ffrindiau, ond mae Bob yn ffrind arbennig iawn. A story for young listeners about Madlen and her imaginary friend.
Dewch i wrando ar stori am Siwsi y seren wîb, y seren fwyaf disglair yn y gofod i gyd. A story for young listeners.
Dewch i wrando ar stori am Carys a’i ffrind gorau Sion a aeth i fyw yn Awstralia. A story for young listeners.
Mae hi wedi bod yn bwrw glaw yn drwm ar Fferm Tyddyn Ddol a mae Carlo’r ceffyl mewn trafferth, pwy ddaw i’w achub?
Dewch i wrando ar stori am ferch fach o’r enw Betsan a’i phensil hud.
Dewch i wrando ar stori am Maldwyn a’r halibalŵ yn y sŵ. A story for young listeners about Maldwyn's visit to the zoo.
Dewch i wrando ar stori am ddau efaill, Daniel a Math, a’r ffliw a stopiodd eu cynlluniau ar gyfer y gwyliau.
Dewch i wrando ar stori am Nedw’n dysgu nofio gyda help Mr Fflôt. A story about Nedw learning to swim.
Stori ddirgel sydd gan Sali Mali y tro hwn. Bob tro mae Martha a Bwni yn mynd am dro i ben y mynydd mae hi’n clywed sŵn udo, pwy yn y byd sy’n gwneud y sŵn tybed?
Sali Mali sy'n darllen stori am Ani ac Efan. Er bod ganddi biano, dydy Ani ddim yn gwybod sut i’w chwarae, ond mae Efan ei ffrind yn llenwi’r tŷ gyda sŵn hyfryd.
Sali Mali sy'n adrodd stori am Cai. Un noson, pan mae Cai yn trio ei orau glas i fynd i gysgu, mae e’n mynd ar antur arallfydol gydag anghenfil y dŵfe.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Mae Wmffra yr anghenfil yn anhapus ac er ei fod yn anghenfil mawr, mae e ofn cathod.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Dewch i wrando ar stori am Meira a’i Siop Pob Dim.
Mae gan Daniel ffrind anghyffredin iawn i gadw cwmni iddo wrth y bwrdd bwyd. Daniel has a very unusual friend to keep him company at the dinner table.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Dewch i wrando ar stori am Hari’r Hwyaden a’i ffrind Pitw Llygoden.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Dewch i wrando ar stori am Iwan a’i ‘sgidiau newydd llachar.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Dewch i wrando ar stori am Delyth a’r dolffiniaid. A story for infants.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw.
Dewch i wrando ar stori am falwoden a broga yn helpu ei gilydd am eu bod yn ffrindiau.
Stori i blant bach, yn cael ei darllen gan un o gymeriadau Cyw. Dewch i wrando ar stori am ferch o’r enw Leusa sydd ddim yn edrych ymlaen i fynd ar ei gwyliau.
Dewch i wrando ar stori am Nedw a’i ffrind bach smotiog oedd yn byw i lawr ochr y soffa.
Dewch i wrando ar stori am Jona a’i ffrind newydd Bedwyr y bochdew.
Dona Direidi sy'n adrodd y stori hon am Sali. Mae gan bob un o ffrindiau Sali anifail anwes, ac mae hi eisiau un ei hun. All of Sali's friends have a pet, and she wants one too.
Sut mae helpu cranc i chwarae pêl droed heb dorri’r bêl? Mae’r ateb gan Hari’r hwyaden. A story for infants.
Dewch i wrando ar stori am wyliau haf Tomos a Carys mewn carafan yn Llangrannog. A story about Tomos and Carys' holiday in a caravan.
Sali Mali sy'n adrodd hanes Steffan a'i ffrindiau yn chwilio am ystlumod, sy'n greaduriaid llawn rhyfeddod.
Stori am y Brenin Blin, sydd ddim yn gwybod sut i fwynhau ei hun. Story for young listeners about a king who doesn't know how to have fun.
Stori am antur Steff ar gefn cath o’r enw Pws. The adventures of Steff and Pws the cat.
Mae dymuniad Lowri a'i brawd, Lewis, yn dod yn wir. Lowri and Lewis' wish comes true.
Stori am Lili, chwaer fach Nel, yn rhoi'r gorau i'w dwmi. A story for infants about Nel's little sister, Lili, giving up her dummy.
Stori am Jac yn gwrthod rhannu ei deganau, cyn ymuno i chwarae â Gwion a Gruff drws nesaf. A story for infants.
Mae Owi wrth ei fodd yn gwneud pob math o bethau yn yr ysgol, heblaw am farddoni ac odli. Owi enjoys all kinds of things at school, but doesn't like composing poetry and rhyming.
Dewch i wrando ar stori am Cadi a Tedi, sydd eisiau chwarae cyn mynd i'r gwely. Cadi and Tedi want to play before bedtime.
Mae Caradog y Coblyn yn genfigennus o Huw Bob Lliw, sy'n lliwio popeth yn y byd. A story about Huw Bob Lliw, whose job is to colour everything in the world.
Stori am Lleucu'r Lleuad sy'n hoffi gwenu, a bachgen bach sydd arno ofn mynd i'w wely. A story for infants.
Stori am antur Osian wrth chwarae cuddio gyda'i frawd, Moi. A story about Osian's adventure when playing hide-and-seek with his brother, Moi.
Stori am Moi y mochyn mentrus a'i frawd bach Osian, bob amser mor ofalus. A story for infants.
Dewch i wrando ar stori Siriol, sy'n ysu i gael tegan meddal a ffôn fel ei ffrindiau. Huw reads a story about Siriol, who wants a squashy toy and a phone like her friends.
Elin sy'n darllen y stori hon am Sion a Sian yn chwarae pêl yng ngardd nain a taid. A story for infants.
Huw sy'n adrodd hanes Mabon a'i dad yn paratoi i ddarllen stori cyn cysgu. A story for infants about Mabon and his dad getting ready to read a story before going to sleep.
Pam nad yw Aled yn cofio ei freuddwydion yn y bore? Mae Mr Pen yn y Cymylau yn gwybod! A story for infants about Aled, who can never remember his dreams in the morning.
Mae'n wyliau ysgol, a mae Ffred a Casi yn cael helpu dad yn ei siop lyfrau. A story for infants. It's a school holiday, and Ffred and Casi get to help dad in his bookshop.
Er bod Malan yn y gwely gyda brech yr ieir, mae Beti'r iâr yn dod i'w gweld hi. Even though Malan is in bed with chicken pox, Beti the hen comes to see her.
Dyw Beca erioed wedi gweld eira o'r blaen, ac mae ganddi ffrind newydd i chwarae gyda hi. Beca sees snow for the first time ever, and has a new friend to play with.
Jim Pob Dim sy'n darllen stori Brenin y Laladwndwns yn gwneud sŵn rhyfedd iawn. Does neb yn gwybod beth yw e, nac o le mae e'n dod. Oes rhywun yn medru ei helpu?
Jim Pob Dim gyda stori am Wil, sydd ddim yn hoffi ymweld â'i nain a'i daid. A story for young listeners. Wil doesn't like visiting his grandparents.
Elin Haf sy'n adrodd hanes Prys y penbwl penstiff yn tyfu i fyny a throi'n llyffant. This is the story of Prys, a stubborn tadpole who becomes a frog.
Elin sy'n darllen y stori hon am Malan a'i brawd bach, Trystan, yn helpu mam-gu i goginio tarten driog.
Huw Cyw sy'n darllen y stori hon am Betsan yn cael anrheg pen-blwydd anarferol iawn gan ei thad-cu, sef pensil hud coch.
Dydi Leusa ddim eisiau symyd tŷ, ond mae'n newid ei meddwl ar ôl dod o hyd i lythyr arbennig yn y tŷ newydd. Leusa doesn't want to move home, but then she finds a special letter.
Elin Haf sy'n adrodd y stori hon am Elsi a Medwyn ap Fflwff yn defnyddio hwfer hud. A story for young listeners about Elsi and Medwyn ap Fflwff using a magic hoover.
Dona Direidi sy'n adrodd y stori hon am Jona yn eistedd yn y bath, ac wrth ei fodd yn gweld am y tro cyntaf fod ganddo gynffon pysgodyn.
Dyw Mari ddim yn hoffi chwarae gyda'i brawd bach o hyd, ond dyw chwarae ar eich pen eich hun ddim wastad yn hwyl chwaith, ac wedyn mae cael brawd bach yn hwyl.
Dona Direidi sy'n adrodd y stori hon am Jini, sy'n gweld drymiwr dawnus ar ymweliad â'r syrcas, ac yn ysu am gael dysgu sut i ddrymio.
Dona Direidi sy'n adrodd hanes aderyn bach wrth ddrws tŷ, yn poeni am y gaeaf. Beth ddigwyddith pan ddaw y rhew a'r eira? Dona Direidi reads a story for young listeners.
Antur Archfarchnad Albi: Wrth fynd i siopa gyda mam un diwrnod, mae Albi yn crwydo ac yn mynd ar goll. Sut yn y byd fydd e'n dod o hyd iddi? Albi wanders off and gets lost.
Mae Edryd a'i ffrindiau yn cymryd rhan mewn triathlon. Stories for the young. Edryd and his friends take part in a triathlon.
Sali Mali sy'n adrodd hanes Awel a'i modryb arbennig iawn, Modryb Jo, sy'n byw mewn carafan.
Mae'r tywyllwch yn codi ofn ar Awel, ac mae'r ddwy yn mynd ar daith hudolus i'r lleuad.
Sali Mali sy'n adrodd y stori hon am Lilian a Glenys, y ddwy chwaer ddiriedus, a'u taith i gasglu torth fawr gan Mam-gu ar gyfer swper y cynhaeaf.
Sali Mali sy'n darllen stori am Tigo a Bobo o blaned yr Wmffifflwffs yn teithio i'r Ddaear i weld Cadi, eu ffrind gorau, ar ddiwrnod ei phen-blwydd. Beth all fynd o'i le?
Mae Mali yn mwynhau gwylio rhaglenni am fywyd y môr, ond ofn mynd i nofio yn y pwll. Mali enjoys watching programmes about sea life, but is too scared to go swimming in the pool.
Mae Siwsi y seren wib wrth ei bodd yn hedfan, ac un diwrnod mae'n cyfarfod â seren arbennig iawn sydd angen gwersi hedfan. Siwsi the shooting star meets a very special star.
Bob haf, mae Aled yn treulio ei wyliau ar Ynys Môn gyda Taid.
Mae Taid yn adrodd stori iddo bob nos cyn iddo fynd i gysgu, am ei hanes yn dal pysgod anferth, stormydd gwyllt ar y môr, neu hoff stori Aled am y Royal Charter.
Mae Bryn y Brithyll a'i ffrindiau yn gwybod yn iawn nad ydyn nhw i fod i nofio'n agos at y Pwll Dwfn ond un drwg ydy Dilys, mae hi wastad yn denu'r criw i drafferthion. A dyna sut mae'r ffrindiau yn dod wyneb yn wyneb â'r Blaidd Dŵr.
Mae Henri wrth ei fodd yn mynd am drip gyda'i famgu, a wastad yn cael diwrnod cyffrous. A series of stories for the young. Henri always enjoys trips with his grandmother.
Mae Siôn yn caru pob math o 'sgidiau. Welis, bwts, sandalau. Pob esgid yn y byd. Ar ôl i bawb yn ei ddosbarth gwneud hwyl am ei ben, mae'n cael syniad sy'n siwr o newid meddyliau pawb am ei 'sgidiau.
Mae Alun yr wylan wrth ei fodd yn dwyn pysgod a sglodion pawb ar draeth Llansgodynsglodyn, ond un diwrnod mae'n dysgu nad yw gormod o sglodion yn eich gwneud yn hapus.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Llongyfarchiadau i Efa Fflur Williams ar ennill cystadleuaeth Tic Toc i ddod o hyd i gymeriad newydd.
Mae'r stori yma am Nain Cacan. Hi ydi hoff nain pawb yn y pentref, ond mae'n sâl. Sut mae gwneud iddi deimlo'n well?
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae Ianto wrth ei fodd gyda sŵp tomato Nain, ond be wneith e pan does dim tomatos ar ôl yn y siop? Ianto loves tomato soup, but there are no tomatoes in the shop. What will he do?
Dyw Magi Dlos ddim yn hoffi rhedeg yn gyflym, hyd nes y daw diwrnod mabolgampau'r ysgol. A story for infants about Magi Dlos, who doesn't like to run fast.
Mae Edryd a'i ffrind Wmffra'r eliffant eisiau gweld os ydi dillad ysgol Edryd yn gweithio. Edryd and his friend Wmffra the elephant put Edryd's school clothes to the test.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Stori i blant bach am Bedwyr a Heini'r sebras. Mae'r ddau yn ffrindiau mawr, ond yn ofnus pan ddaw Llywelyn y Llew y i chwarae. Two zebras are scared when a lion comes to play.
Mae Tegid eisiau cyfarfod Sion Corn, ac ar Noswyl Nadolig mae’n penderfynu gosod trapiau o gwmpas y tŷ. A fydd o'n llwyddo? Series of stories for the young.
Llongyfarchiadau i Cain Gruffydd Williams ar ennill cystadleuaeth Tic Toc i ddod o hyd i gymeriad newydd. Mae'r stori hon am ei gymeriad, Bili Bala.
Bachgen cyffredin ydi Bili, sy'n mwynhau chwarae gyda'i ffrindiau, ond mae ganddo gyfrinach anhygoel.
Dydi Gwyn ddim yn hoffi pethau newydd – dillad, bwyd na gemau newydd - felly pan mae'n clywed fod Dad yn symud i dŷ newydd, mae'n dychryn yn ofnadwy.
Mae mabolgampau'r môr-ladron wedi cyrraedd, ond pwy fydd yn ennill y trysor? A series of stories for the young. Everyone wants to win the treasure at the pirates' sports day.
Mae'r llythrennau eisiau newid trefn yr wyddor, ond a fydd y drefn newydd yn plesio pawb? A story for young listeners. The letters of the alphabet wish to change their order.
Mae Cadi'n caru hufen iâ a siocled, ac yn casáu pethau iach fel moron a thomatos.
Ar ôl cael brocoli gan ei mam i'w fwyta, rhaid iddi feddwl am gynllun i gael gwared ohono.
Mae gan bawb gysgod, ond dyw Carwyn ddim yn garedig iawn wrth ei gysgod ei hun. A short story for young listeners. Everyone has a shadow, but Carwyn isn't very kind to his.
Mae Bobi'n froga talentog iawn, ond nid yw'n hapus iawn. A story for young children about Bobi, who is a very talented frog but not a happy one.
Mae Del yn dod o hyd i esgid fach liwgar wrth chwarae'n y stryd, ond pwy yw'r perchennog? A story for young children. Del traces the owner of a shoe.
Mae bwyd yn diflannu o'r gegin, ond mae Del yn barod i geisio datrys y dirgelwch. A story for children. Del tries to solve the mystery of the disappearing food.
Mae Dafydd yn dal iawn, ac yn chwerthin am ben Cai oherwydd ei fod yn fyr iawn, felly mae Caradog y Corrach yn dod i chwilio amdano. A short story for young listeners.
Wrth i Harri a Greta gael ffrae fawr, mae rhywbeth hudol a rhyfeddol yn digwydd i'r ddau. A short story for young children.
Ar ddiwrnod anffodus gyda phopeth yn mynd o'i le, mae Mali yn teimlo'n anlwcus iawn. A short story for young listeners about Mali, who feels very unlucky when she has a bad day.
Dydy Albi ddim yn hoffi mynd i'r bath tan iddo gael antur anghyffredin iawn. Albi who does not like baths, until he has an unusual adventure.
Mae argyfwng ym myd y Laladwndwns, ond mae Lara a'i thad a'r dylluan ddoeth yn gwybod sut i achub y dydd. A story for young children about a crisis in the world of the Laladwndwns.
Jim Pob Dim sy'n dweud y stori am Albi sydd â thri ffrind da o'r enw Ela, Popi a Ned, ond dyw hynny ddim yn ddigon iddo, Ydi, mae Albi eisiau un ffrind arall.
Stori i'r plant lleiaf yn cael ei darllen gan Jim Pob Dim, un o gymeriadau Cyw.
Mae Ben Dant eisiau iddo fe a Capten Cnec fod yn ffrindiau, ond mae ganddo un amod. A fydd Capten Cnec yn cytuno?
Mae Moc wrth ei fodd yn chwarae gemau cyfrifiadur, ond mae gêm heddiw yn un hudolus a chyffrous iawn. Moc loves to play computer games, and this game is very exciting.
Ar benblwydd Anwen y dylwythen deg, mae mam a dad wedi rhoi hudlath hudol newydd sbon iddi.
Wrth fynd i chwarae gyda Gwydion a Llew yn y goedwig, mae'n gorfod dysgu ei defnyddio ar frys mawr.
Dyw Gweno ddim eisiau symud tŷ, ond mae'n newid ei meddwl wrth weld beth sydd yn yr ardd. Gweno doesn't want to move house, but changes her mind on seeing the garden.
Mae'r amser wedi dod i Alun y draenog fynd i gysgu am y gaeaf, ond dyw e ddim wedi blino. Stories for the young. It is time for Alun the hedgehog to hibernate, but he is not tired.
Mae Cochyn y Clown yn dod i barti Mari heddiw, ac mae pawb wedi cyffroi. Ond dyw Cochyn ddim yn hapus, achos mae e wedi colli ei drwyn coch swnllyd.
Mae Derfel wastad yn cael bai am fod yn ddrwg yn yr ysgol, dyna pam mae'n cael ei alw'n Derfel Ddrwg.
Ond mae Nain yn gwybod fel arall, mae Derfel yn fachgen ffeind iawn.
Merch fach anniben iawn ydy Heti, ond wrth glirio ei stafell un diwrnod mae’n dod i hyd i het anghyffredin, un sy’n mynd a hi ar daith hudolus.
Stori i blant wedi ei darllen gan gymeriadau CYW. Mae Lleucu wedi anghofio ei bod hi’n ddiwrnod penblwydd arni, ond mae ei ffrindiau wedi trefnu sawl syrpreis hyfryd iddi.
Hoff ddiwrnod Joseff yw Dydd Nadolig, heblaw am un peth - cracyrs. Christmas Day is Joseff's favourite day of the year, except for one thing - crackers.
Mae Beca'n benderfynol o wisgo ei welis ar ddiwrnod mawr priodas Anti Elin. Beca is determined to wear her wellies to Auntie Elin's wedding.
Dyw Menna Malwoden ddim eisiau chwarae cuddio oherwydd ei bod yn gadael llwybr ar ei hôl. Story for young children. Playing hide and seek is no fun for a snail like Menna Malwoden.
Stori i blant bychain am Cadog y pry copyn sy'n byw yn rhif 3, Llwybr Llawen. A story for young children about Cadog the spider who lives at number 3, Llwybr Llawen.
Cynog yw'r cogydd gwaethaf erioed, ond heddiw mae'n cael cyfle i fod yn arwr a helpu Ben Dant i lywio ei long yn saff. A short story for young children.
Mae Criw Cyw eisiau mynd allan i'r ardd i chwarae yn yr heulwen braf ond mae Bolgi'n dwli chwarae cuddio yn y tŷ. A series of stories for the younger audience.
Tegan meddal bach melyn yw Tedyl. Tedi yn ystod y dydd ond pan fydd pawb yn cysgu mae'r tedi bach yn troi'n geffyl sy'n helpu pawb mewn trafferth. Stories for the young.
Dyw Efan ddim yn deall pam mae ei fam yn hoffi mynd am dro i’r traeth mewn tywydd oer a gwyntog, ond heddiw mae'n cael antur gyffrous iawn yn y tywydd garw.
Mae Meg yn cael brechdan tiwna bob un dydd yn yr ysgol, ond ar ôl trip i’r traeth mae'n newid ei brechdan am frechdan môr-forwyn.
Mae Dewi druan a'i bwmps yn broblem. Ydi, mae e wrth ei fodd yn bwyta ffa pob. Ffa pob i frecwast gyda'i dost, hefo taten i ginio, mewn brechdan i swper, a chacen ffa pob i bwdin.
Stori i blant bach am Gwili yn deffro un bore ac yn darganfod ei fod wedi troi yn fochyn. A story for young ones about Gwili waking up and discovering that he's turned into a pig.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Heddiw mae Trystan yn chwarae gyda'i ffrind Jac yn y parc ac yn ceisio mynd yn uwch na Jac ar y siglenni. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. "Ti'n rhy fawr i ddod i ganol y coed a'r anifeiliaid bach" yw cri yr anifeiliaid wrth Deian y Deinosor. Ond mae Deian druan yn unig ac eisiau ffrindiau. Wrth lwc mae Dan Deryn yn cael syniad ardderchog.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. Mae llanast difrifol yn stafell wely newydd Mam a Dad ac mae Smwtyn y ci ar fin cael y bai, ond tybed ai Smwtyn sydd yn gyfrifol?
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae draenogod bach yn cysgu trwy'r gaeaf, ond dydy Deri Draenog ddim wedi dod o hyd i rywle clud i aeafgysgu. Tybed a ddaw e o hyd i rywle mewn pryd?
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae Tegid eisiau cyfarfod Sion Corn, ac ar Noswyl Nadolig mae’n penderfynu gosod trapiau o gwmpas y tŷ. A fydd o'n llwyddo?
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Does gan rieni Daniel ddim amser i eistedd gyda fe wrth y bwrdd bwyd, mae'n nhw'n llawer rhy brysur, ond mae gan Daniel ffrind anghyffredin iawn yno i gadw cwmni iddo.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae Mabon yn sugno ei ddymi o fore gwyn tan nos ac yn gwrthod yn lân a rhoi'r gorau iddo – dim nes iddo fynd am dro o gwmpas y fferm gyda Nain.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. Mae pawb yn nhŷ Cyw yn dda am wneud rhywbeth, pawb ond Jangl – wel dyna mae Jangl yn ei feddwl beth bynnag. Ond ydy hynny'n wir tybed?
Mae sgwter Rhys wedi torri a mae e’n dwli mynd ar ei sgwter, ond does dim gobaith cael un newydd, felly oes nad ydy Mam yn fodlon helpu Rhys i gael un newydd wneith Rhys feddwl am gynllun arall.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. Mae Glyn yn unig, does ganddo ddim brawd na chwaer fel sy' gan ei ffrindiau yn yr ysgol. Ond mae Mamgu yn dangos tric arbennig i Glyn sy'n golygu nad oes rhaid iddo fod yn unig byth eto.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. Wrth aros yn amyneddgar y tu allan i'r siop am ei berchennog mae Mic y ci yn cwrdd â ffrind newydd annisgwyl iawn - bag plastig sy'n siarad ac yn dawnsio yn y gwynt!
Mae Rhodri yn fachgen bach prysur iawn yn chwarae gemau a chwarae ar ei gyfrifiadur, ac yn rhy brysur i helpu Mam a Dad i glirio'r llestri a thacluso ei stafell wely. Ond mae Mam yn gwybod sut i newid ei feddwl am hynny.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae Bobi'n blentyn bach busneslyd iawn ond yn hapus iawn ei fyd. A dweud y gwir dim ond un peth sy'n gwneud Bobi'n anhapus, caws. Ie, caws. Mae Bobi'n methu diodde ei gyffwrdd, ei arogli heb sôn am ei fwyta!
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Dyw Mari ddim yn hoffi chwarae gyda’i brawd bach o hyd, ond dyw chwarae ar eich pen eich hun ddim wastad yn hwyl chwaith, ac wedyn mae cael brawd bach yn hwyl.
Cyfres o straeon o bob math i'r plant lleia. A series of stories for the younger audience.
Mae Wncwl Ben sy’n ofodwr, yn mynd a Cadi ar antur gyffrous drwy’r gofod am fod angen ei help hi arno i wneud i’r Wmfflifflwffs - sy’n byw ar blaned arall - wenu eto!
Pan mae Tesni a Dad a Taran y bochdew yn mynd i siopa un bore Sadwrn, mae Tesni yn mynd i grwydro, cyn i Taran y bochdew fynd i grwydro hefyd.
Mae Dad Swyn yn dda iawn am goginio ond dydy Mam Swyn ddim cystal.
Ar ddiwrnod penblwydd Dad Swyn, mae Swyn yn penderfynu helpu Mam i wneud cacen penblwydd iddo, ond mae coginio yn fusnes anodd iawn.
Mae Lowri yn ffan mawr iawn o Dona Direidi ac wrth ei bodd pan mae'n cael cyfle i fynd i un o gyngherddau Dona a chyfarfod â hi.
Mae Huw yn gorfod symud o'r wlad i fyw yn y dre a dydy ddim yn edrych ymlaen i wneud hynny o gwbl achos mae'n gwneud ffrindiau newydd wastad yn anodd mewn ysgol newydd.
Mae Cyw a’i ffrindiau yn mynd ar drip i’r amgueddfa ac yn cwrdd â ffrind newydd anghyffredin iawn.
Pan mae Dan y Don yn galw i weld ei ffrind Ben Dant, mae Ben Dant yn methu ei glywed, ac mae Benji’r parot a Dan y Don yn cael trafferth mawr i esbonio i Ben Dant beth sydd wedi digwydd.
Dydy Leusa ddim eisiau symud i fyw i hen dŷ ei Nain o gwbl , ond ar ôl cyrraedd y tŷ newydd mae’n darganfod cyfrinachau cyffrous sy’n newid ei meddwl hi’n llwyr .
Gwaith Huw Bob lliw yw lliwio popeth yn y byd, gwneud y glaswellt yn wyrdd, y môr yn las, a'r haul yn felyn, ond mae Caradog y Coblyn cas yn genfigennus ohono ac creu swyn i ddwyn y lliw o'r byd .
Pan mae tad Tomos yn cael damwain ddifrifol wrth fynd i gerdded un dydd, mae Tomos ac Alffi’r ci bach yn llwyddo i gael help i achub Dad o’r glogwyn .
Mae gan Ianto lawer o ffrindiau, ond un o'i ffrindiau gorau yw ei daid.
Un diwrnod, pan aeth Ianto i weld Taid er mwyn cael gêm bêl-droed, doedd na ddim llawer o hwyliau arno ,roedd yn rhaid i Ianto helpu Taid.
Mae Ben Dant yn for leidr drygionnus ac yn dwli chwarae triciau ar bawb ond mae Benji ei barot ffyddlon wedi cael llond bol ar ei driciau ac am chwarae tric yn ôl ar Ben Dant .
Mae Tesni yn ysu am frawd neu chwaer, neu hyd yn oed ci bach i ddod i chwarae ac i fod yn ffrind iddi. Ond mae gan Dad syrpreis iddi sy’n well na chael brawd, chwaer na chi .
Mae hi'n ddiwrnod braf o haf ac yn amser Eisteddfod y Môr. Eisteddfod i bysgod yw e, ac mae’n cael ei gynnal ar ddechrau mis Awst bob blwyddyn am ddiwrnod yn unig.
Er bod Ela yn byw ar fferm gyda bob math o anifeiliaid, cŵn, cathod, ieir a defaid, mae'n ysu am gael anifail anwes. Dydy ei rhieni ddim eisiau mwy o anifeiliaid ar y fferm ond yn annisgwyl iawn, mae Ela yn dod o hyd i ffrind bach newydd.
En liten tjänst av I'm With Friends. Finns även på engelska.