Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call.
Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o prosiectau Raspberry Pi.
Wedyn mae na sgwrs arall am sefyllfa elyfrau yng Nghymru ar ôl lawnsiad app siop newydd gan y Cyngor Llyfrau. Ydy nhw’n mynd y ffordd iawn? A oes goleuni ar ddiwadd y DRM? Cawn weld.
Robin o Wicimedia Cymru sydd yn trafod y gwaith arbennig maent yn ei wneud i drio rhyddhau gwybodaeth a lluniau allan i’r cyhoedd.
Mae’n ddrwg genym am ansawdd y sain, doedd Gafyn ddim ar gael i rhoid y polish arno.
Diolch yn fawr i Carl am trefnu popeth.
The post Haclediad #30: Yn Fyw o’r M@es appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Special Guests: Carl Morris, Kim Jones, Phil Stead, and Robin Llwyd ab Owain.