Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92!
Yn y bennod yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod yr iPhone newydd sgleiniog sy gan Iest a sut mae gwerthu ffôns wedi cloi bellach yn anghyfreithlon; 4k restorations lliw ffilmiau o ganrif yn ôl, wal magic John King, filmiau Cymraeg ar Amazon a #FfilmDiDdim sy bron mor “WTF?!” â Cats - Winter’s Tale.
Links: