🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍
🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod.
🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn rhedeg ar OnlyFans a Netflix Christmas Movies o hyn mlaen, cymwch notes!
⭐️ Hoffai tîm yr Haclediad hefyd anfon ein cariad i bawb sydd wedi colli rhai annwyl, neu yn dioddef dros yr ŵyl, dydy Dolig ddim wastad yn adeg hapus - plis ewch i meddwl.org am gyngor ac adnoddau i’ch helpu i ddod trwyddi elenni.
Links: