Sveriges mest populära poddar

Yr Haclediad

The Pope’s Sgwishi Sobrasada Excorcist

166 min • 2 mars 2025

Mae criw'r Haclediad nôl gyda cursed episode arall o'ch hoff tech/existential dread/ffilms gwael podcast (yn y Gymraeg!)

Mis yma bydd Bryn, Sions a Iestyn yn galaru am Skype, trafod cêrio am bethe a phethe sydd wedi eu neud â gofal, a haunted trailer newydd Alexa plus (pam fod angen brên dy hun? Just gad i big brother Jeff Bezos neud o!)

Hefyd gwrandwch allan am coverage byw o #CIG2025 yn trendio ar Bluesky as it happened, a'r criw yn bathu'r term "Booze Miles" am y cysyniad sut mae gwin wastad yn neisiach dramor 💡

Ffilmdiddim y mis ydy'r gampwaith S-Tier The Pope's Excorcist - schloc crefyddol o'r radd flaenaf 👌👌👌
(Hefyd, yn anffodus anghofiodd Russel Crowe i excorcisio meicroffon Iest a felly fe ddiflannodd ei sain o hanner ola'r Sioe - RIP hot takes Iest ar Pope on a Rope 2: the Crowening)

Diolch o galon i chi gyd eto am wrando a chefnogi'r sioe - chi werth y byd 🫶

Support Yr Haclediad

Links:

Förekommer på
00:00 -00:00