Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?”
Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury
Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ffyddlon o gyfranwyr, taflwch cwpl o bunnoedd i’r pot Ko-rfi ☺️
Links: