Sveriges mest populära poddar

Yr Haclediad

Episode 1: Croeso i’r Haclediad

39 min • 25 oktober 2010

“Henffych ddarpar wrandawyr!
Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!”

Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad.

Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd estynedig Bryn o’r iPad, anrheg ‘Dolig cynnar yr Apple TV gan Iestyn, a Sioned yn cracio dan y gwasgedd a gadael i iMac ddyfod i’w thŷ, mae  digon i chi wrando arno, ond dim gormod i syrffedu arno gobeithio!

Cofiwch, mae mwy i ddod, am declynnau, y Gymraeg arlein a llawer mwy; ond am rŵan cyflwynwn yr Haclediad i chi wrando, barnu a rhoi gwaedd i ni am be hoffe chi i ni drafod ar [email protected].

Edrychwn mlaen i glywed ganddo chi!

Criw’r Haclediad

O.N. Ffrwd iTunes yn dod yn fuan.
Diolch yn fawr i Gafyn Lloyd am ysgrifennu’r gân i’r rhaglen a hefyd am rhoi’r rhaglen at ei gilydd. Gallwch ffeindio mwy allan am Gafyn ar ei wefan gafynlloyd.com

The post Croeso i’r Haclediad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Support Yr Haclediad

Förekommer på
00:00 -00:00