Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple.
Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus).
Byddwn yn trafod yr iCloud (neu’r tamed ohono, yr iNiwl os hoffech chi, sydd allan yno), a chynlluniau sensro’r we, a ddylen ni fod yn ofnus?
Diolch eto am wrando ar Bryn (
@bryns), Iestyn (
@iestynx) a Sioned (
@llef) am 10 hacleciad, welwn ni chi yn yr Eisteddfod!
The post Haclediad #10 – Yr un niwlog appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.
Support Yr Haclediad