Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad!
Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma!
The post Haclediad #27: ‘Home’ appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.