Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli.
Mwynhewch
O.N. — Mi recordwyd hwn wythnosau yn ôl, a nid yw Gafyn wedi bod yn agos ato, felly ymddiheuriadau am yr ansawdd a’r amser gymerwyd i’w ddarlledu.
The post Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.