Sveriges mest populära poddar

Yr Haclediad

Hei Pen Pidyn

170 min • 24 januari 2022

Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓

‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆

Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff random CES ymysg llwythi o bethau eraill.

#FfilmDiDdim y mis ydy’r unigryw RED NOTICE 🚨 Ydy’r isdeitlau Cymraeg yn gwneud y ffilm yn anhygoel o brofiad, neu ydy veins pen Y Rock yn transendio ffiniau iaith heb eu help? Sgipiwch y chapter markers yn syth i weld 😊

A DIOLCH MAWR IAWN i Ross Mc Farlane a Jamie am roi arian hael yn tip jar y sioe draw ar Ko-Fi - gwnewch chi’r un peth i gael shout out ar y sioe 🥳

Diolch am wrando a welwn ni chi mis nesa 😚

Support Yr Haclediad

Links:

Förekommer på
00:00 -00:00